Lleoliad: Ar-lein
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024
Amser:
09.01 -
09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a Darren Millar. Roedd Jane Hutt a Russell George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
Ar ôl i gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddiswyddo wedi iddynt gael eu penodi i rolau Gweinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddion y pwyllgorau hynny barhau i gael eu dyrannu i grŵp Llafur. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai enwebiadau'n cael eu gwahodd ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidleisiau sydd eu hangen yn cael eu cyhoeddi cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn:
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Gweinidog
Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45
munud)
· Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
· Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Jane Hutt fel aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths.
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y grŵp Llafur i gynnig Aelod yn lle Ken Skates ar Gomisiwn y Senedd ac i gynnig gael ei gyflwyno i'w ystyried ddydd Mercher.
Gwnaeth y Llywydd atgoffa Rheolwyr Busnes am yr amseriadau ar gyfer cyfraniadau siarad yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mercher.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau economaidd (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau trafnidiaeth (30 munud)
·
Rheoliadau Defnydd Mandadol o
Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15
munud) -
gohiriwyd
·
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc.
(Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (15 munud)
- gohiriwyd
Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a’r Prif Chwip (45 munud)
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)
Dydd Mercher 1 Mai 2024
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Weinidog yr Economi
(45 munud)
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol (45 munud)
Cytunwyd ar yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 -
Dydd Mercher 8 Mai 2024 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd (60 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Ebrill:
Janet Finch-Saunders
NNDM8504
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen newydd ar gyfer cwestiynau llafar.
Ymgynghorodd y Llywydd â'r Rheolwyr Busnes ynghylch a ddylid galw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Darpar Gwnsler Cyffredinol gan ystyried cyfrifoldebau newydd y gweinidogion. Yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd, nododd y Llywydd y byddai'n parhau i alw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd ac i barhau i adolygu'r trefniadau.
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei osod ar 15 Ebrill 2024, ar ôl cael ei gyfeirio yn ei gyfarfod blaenorol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol.